15 Ionawr 2018

Annwyl Syr/Madam

Effaith cynllunio cludiant ac isadeiledd ar Ddigwyddiadau Mawr yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd

Diolch ichi am ymateb i gais y Pwyllgor am wybodaeth ynglŷn â gwaith cynllunio trafnidiaeth mewn cysylltiad â Gornest Anthony Joshua yng Nghaerdydd ar 28 Hydref 2017.

Roedd y Pwyllgor wedi ysgrifennu yn dilyn sylw yn y cyfryngau a oedd yn awgrymu nad oedd popeth wedi mynd yn esmwyth ar y noson, o bosibl. Roeddem yn bryderus y gallai rhywfaint o’n gweithdrefnau, a sefydlwyd yn dilyn ein hymchwiliad i Deithio Cwpan Rygbi’r Byd, fod wedi methu o bosibl. Roedd eich ymatebion yn ddefnyddiol iawn i roi darlun cliriach a sicrwydd inni fod y gwaith aml-asiantaeth a rhannu gwybodaeth yn parhau’n rhan allweddol o’r gwaith o baratoi ar gyfer digwyddiadau mawr.

Ar ôl darllen eich ymatebion, mae’r Pwyllgor yn fodlon, er bod ciwiau hir am dacsis ar y noson, mae’n ymddangos bod agweddau eraill ar y gwaith cynllunio cludiant ar gyfer y digwyddiad wedi bod yn effeithiol.

Mae’r Pwyllgor yn falch o nodi bod gweithdrefnau cynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr yn Stadiwm y Principality yn gweithio’n dda, fe ymddengys, ers ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor, ond mae cyfathrebu, cynllunio a darparu adnoddau effeithiol yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn cadw ac yn gwella ei henw da fel un o’r lleoedd gorau yn y byd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon ac adloniant rhyngwladol. Mae’r lefel hon o gydlynu yn arbennig o angenrheidiol pan fydd nifer o ddigwyddiadau yn y ddinas ar yr un dyddiad.

Gwn fod y Stadiwm yn parhau i wneud cais am ragor o ddigwyddiadau byd-eang, fel gornest Joshua v Parker ar 31 Mawrth, ac edrychaf ymlaen at weld Cymru’n cynnal y digwyddiadau hyn yn llwyddiannus yn y dyfodol.

Yn gywir,

Russell George

Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau